ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIAD ARIANNOL
Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR BLANT SY'N DERBYN GOFAL
MAWRTH 2014
LLEISIAU O OFAL VOICES FROM CARE
Rhagair David Melding (Cadeirydd)
Nod y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy'n Derbyn Gofal yw defnyddio'r adnodd craffu sydd ar gael yn y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn helpu i wella safon y gwasanaethau a ddarperir i blant mewn gofal ac unrhyw un sy'n gadael gofal.
Yn ystod y flwyddyn, edrychodd y grŵp ar gymorth mabwysiadu, plant sydd ar goll o ofal a chasglu'r data hyn, cynnal cyfleoedd ar gyfer cyswllt ystyrlon rhwng brodyr a chwiorydd mewn gofal, ac ymestyn y cyfnod ar gyfer lleoliadau gofal maeth hyd at 21 oed.
Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol rwy'n ddiolchgar i holl Aelodau'r Cynulliad sydd wedi cefnogi ein gwaith. Rydym hefyd wedi cael budd o arbenigedd sawl siaradwr gwadd sydd wedi rhoi'n hael o'u hamser. Ond heb gefnogaeth ragorol ysgrifenyddiaeth y Grŵp, Lleisiau o Ofal, ni fyddai'r gwaith gwerthfawr hwn wedi bod yn bosibl.
Y grŵp trawsbleidiol ar blant sy'n derbyn gofal
Mae'r Grŵp yn cyfarfod i drafod materion pwysig gwahanol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru ac yn trafod y goblygiadau o ran polisi.
Mae'r cyfarfodydd hefyd yn gyfle i gynrychiolwyr o sefydliadau perthnasol gwrdd ag Aelodau'r Cynulliad i drafod materion o bryder ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.
Aelodau ac Ysgrifenyddiaeth
O fis Mawrth 2014, mae'r aelodau a'r ysgrifenyddiaeth fel a ganlyn:
Aelodau:
v David Melding AC - Dirprwy Lywydd (Cadeirydd)
v Bethan Jenkins AC
v Julie Morgan AC
v Mohammad Asghar AC
Ysgrifennydd:
v Rhian Williams – Lleisiau o Ofal
Cyfarfodydd a gynhaliwyd yn y 12 mis diwethaf
Cynhaliwyd cyfanswm o bedwar cyfarfod rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2014.
DYDDIAD Y CYFARFOD: |
AELODAU'R CYNULLIAD A OEDD YN BRESENNOL |
PYNCIAU A DRAFODWYD |
YN BRESENNOL A SIARADWYR GWADD |
8 Mai 2013 |
David Melding AC Dan Butler – Staff Cymorth Mark Drakeford AC Mark Drakeford AC Julie Morgan AC Angharad Thomas – Staff Cymorth David Rees AC Mark Isherwood AC Aled Roberts AC Suzy Davies AC
|
Cymorth ar ôl mabwysiadu |
John Wilkinson, Cyfarwyddwr, Wilkinson PR
D. Jones – Lleisiau o Ofal R. Williams - Lleisiau o Ofal D. Burns - Lleisiau o Ofal |
6 Tachwedd 2013
|
David Melding AC Joyce Watson AC
|
Plant sydd ar goll o ofal |
Joyce Watson AC R. Williams - Lleisiau o Ofal |
11 Rhagfyr 2013
|
David Melding AC
|
Brodyr a chwiorydd mewn gofal |
Delma Hughes, Cyfarwyddwr Sefydlu, Siblings Together
R. Williams - Lleisiau o Ofal |
12 Mawrth 2014 |
David Melding AC
Mohammad Asghar AC
|
Sut y byddai ymestyn yr Oedran Gadael Gofal i 21 oed o fudd i bobl ifanc |
Jeremy Thomas, Scott Ruddock, Debra Walker, TACT Fostering Wales.
Pobl ifanc - C. Kinsey, K. Lavender, L. Lavender S. Richards a J. Hopkins TACT Fostering Wales
D. Jones - Lleisiau o Ofal R. Williams - Lleisiau o Ofal C. Dunn - Lleisiau o Ofal N. Mitchell - Lleisiau o Ofal |
Datganiad Ariannol
Talwyd cyfanswm o £4.50 mewn treuliau teithio dros gyfnod y pedwar cyfarfod. Talodd Lleisiau o Ofal am hyn, ac amcangyfrif costau gwerth £534.04 mewn cymorth ymarferol ar gyfer amser staff Lleisiau o Ofal wrth iddynt wasanaethu'r Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy'n Derbyn Gofal.